BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Oedi’r ddarpariaeth o brofion asymptomatig ar gyfer COVID-19

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae data ein gwaith gwyliadwriaeth yn parhau i ddangos bod cyffredinrwydd COVID-19 mewn cymunedau ac ysbytai yn gostwng yn dilyn y don ddiweddar a achoswyd gan is-deipiau BA.4 a BA.5 o amrywiolyn Omicron y coronafeirws.

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd, ac rydym newydd ddechrau cyflwyno brechiad atgyfnerthu yr hydref yn erbyn COVID-19. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn mis Rhagfyr a byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cynnig hwn.

Wrth inni symud i’r hydref a’r gaeaf, pan ddaw feirysau anadlol yn fwy cyffredin, gallwn gadw ein gilydd yn ddiogel drwy ddilyn camau syml, fel golchi dwylo’n aml, aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os oes gennym symptomau, a gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau gofal iechyd a mannau gorlawn dan do.

Ar sail y cyngor clinigol diweddaraf sydd ar gael am fanteision profion asymptomatig pan fo cyffredinrwydd y coronafeirws yn is, o 8 Medi 2022 ymlaen byddwn yn gwneud newidiadau i’n trefniadau profi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn oedi’r ddarpariaeth o brofion asymptomatig rheolaidd i staff yn y lleoliadau a ganlyn:

  • y GIG (gan gynnwys darparwyr gofal iechyd annibynnol sy’n trin cleifion y GIG)
  • lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau hosbis
  • ysgolion arbennig

Byddwn hefyd yn oedi’r ddarpariaeth o brofion asymptomatig i ymwelwyr â chartrefi gofal, ymwelwyr â’r rhai sy’n gymwys i gael triniaethau COVID-19, a charcharorion wrth iddynt gael eu derbyn i’r carchar.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Oedi’r ddarpariaeth o brofion asymptomatig ar gyfer COVID-19 (2 Medi 2022) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.