Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, tan 30 Medi 2022, er mwyn parhau i ddarparu cymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru.
Er i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ddod i ben bron blwyddyn yn ôl, gwyddom fod yr angen am gymorth yn parhau o hyd. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys helpu gyda cheisiadau hwyr, apeliadau yn erbyn ceisiadau a wrthodwyd, trosglwyddo o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog, yn ogystal â hawliau a hawlogaethau.
O ystyried hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth tan o leiaf 30 Medi 2022, a bydd yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law i sicrhau bod modd i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt o hyd.
Bydd y cyllid ychwanegol hwn hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau’n gallu darparu cymorth i ddinasyddion, gan gynnwys dinasyddion Wcráin a allai fod yn awyddus i ymuno ag aelodau o'u teulu sydd eisoes yn byw yma yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Parhau â’r cymorth i ddinasyddion yr UE sydd am aros yng Nghymru (3 Mawrth 2022) | LLYW.CYMRU