BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau REACH (Diwygio) 2023

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

“Rwyf wedi rhoi caniatâd ffurfiol i Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig osod Rheoliadau REACH (Diwygio) 2023 yn Senedd y DU. Mae'r offeryn statudol hwn yn ymestyn y terfynau amser trosiannol ar gyfer cofrestru cemegau presennol gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gan fusnesau Prydain Fawr yn dilyn Gadael yr UE, o dair blynedd. Pwrpas yr estyniad hwn yw galluogi adolygu a diweddaru y rheolau ar gofrestru, er mwyn lleihau'r costau i fusnesau a darparu data mwy defnyddiol i reoleiddwyr Prydain. Mae'r terfynau amser ar gyfer gwirio coflenni cofrestru gan yr HSE hefyd yn cael eu hymestyn…”
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn a'r rhesymau drostynt yn y ddogfen canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus ar gov.uk.

Dewiswch y ddolen ganlynol i ddarllen y datganiad llawn Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau REACH (Diwygio) 2023 (12 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.