Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Un o’r prif ffactorau sydd yn atal pobl rhag cerdded a beicio yn peidio â theimlo’n ddiogel. Bydd gwella diogelwch ar y ffyrdd newydd nid yn unig yn gostwng y nifer o bobl sydd yn cael eu hanafu ddifrifol a’u lladd ar ein ffyrdd bob blwyddyn, ond bydd hefyd yn helpu i annog mwy o bobl i feicio neu gerdded, yn hytrach na defnyddio’r car ar gyfer teithiau byrrach.
Byddwn yn datblygu strategaeth diogelwch ffyrdd newydd, a fydd yn ategu Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Credwn y dylai diogelwch ar y ffyrdd ddod yn rhan o gylch gwaith y Cydbwyllgorau Corfforaethol newydd fel rhan o'u cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.
Bydd y strategaeth newydd yn cynnwys ffyrdd newydd o feddwl a deall diogelwch ar y ffyrdd, gan ymgorffori'r syniadau rhyngwladol diweddaraf, gan gynnwys Gweledigaeth Sero a'r System Ddiogel.
Heddiw (15 Rhagfyr 2022) rydym wedi cyhoeddi adolygiad terfynol o'r Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd presennol a byddwn nawr yn dechrau ar y gwaith o ddrafftio strategaeth a chynllun cyflawni newydd.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd (15 Rhagfyr 2022) | LLYW.CYMRU