Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae'r blaenoriaethau gwariant sydd wedi'u nodi yn y Gyllideb ddrafft a gyhoeddir heddiw (19 Rhagfyr 2023) yn cael eu cefnogi gan drethi sydd wedi’u datganoli’n llawn a threthi sydd wedi’u datganoli’n rhannol i Gymru.
Mae’r datganiad hwn yn nodi fy nghynlluniau treth sydd wedi’u cynnwys yn y Gyllideb ddrafft. Gyda'i gilydd, bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a'r Dreth Trafodiadau Tir yn cyfrannu tua £3.5 biliwn at Gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024-25.
Ochr yn ochr â'r elfennau sy'n gysylltiedig â threth yn y Gyllideb ddrafft, cyhoeddir heddiw hefyd ddwy ddogfen ymgynghori ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir.
Mae'r ymgynghoriad cyntaf yn ymwneud â diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Treth Datganoledig (Cymru) 201y er mwyn estyn y cyfnod esemptio a'r cyfnod o dair blynedd ar gyfer ad-dalu cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trefodiadau Tir o dan amgylchiadau penoldol. Ymgynghoriad yn cau: 17 Mawrth 2024.
Mae'r ail ymgynghoriad yn ymwneud â'r diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 er mwyn darparu rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau cymwys ar safleoedd treth arbennig dynodedig yng Nghymru, a fyddai’n cynnwys unrhyw borthladd rhydd yn y dyfodol. Ymgynghoriad yn cau: 18 Chwefror 2024.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Trethi Datganoledig Cymru a Chyfraddau Treth Incwm Cymru – Cyllideb Ddrafft 2024-25 (19 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU