Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion ynghylch amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.
Fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen brechu yn erbyn COVID-19, mae'r Cyd-bwyllgor wedi cyhoeddi datganiad sy'n cynnwys ei gyngor terfynol ar gymhwysedd a chynnyrch brechlyn ar gyfer rhaglen y brechiad yn erbyn Covid-19 yn hydref 2024. Prif nod y rhaglen brechu yn erbyn COVID-19 yw hybu imiwnedd yn y rhai sy'n wynebu risg uwch o ganlyniad i COVID-19, a gwella amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i'r ysbyty a marwolaeth.
Yn ei ddatganiad, mae'r Cyd-bwyllgor wedi cynghori na ddylai'r grwpiau canlynol gael eu cynnwys yn rhaglen hydref 2024-25:
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
- Gofalwyr di-dâl
Fodd bynnag, gan fod disgwyl i'r rhaglen ddechrau ymhen ychydig wythnosau, gallai dileu'r grwpiau hyn ar hyn o bryd beri pryder. Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu sicrhau bod brechiad COVID-19 yr hydref ar gael i'r grwpiau hyn fel rhan o'r rhaglen genedlaethol.
Rhagwelir mai dyma fydd y tro olaf y bydd cynnig rhagweithiol yn cael ei wneud i'r grwpiau hyn, yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn y dyfodol, ac adolygiad parhaus gan y Cyd-bwyllgor.
I grynhoi, yn hydref 2024, bydd y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o'r brechlyn COVID-19:
- Pobl sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn
- Pob oedolyn 65 oed ac yn hŷn
- Unigolion rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn nhablau 3 a 4 y bennod ar COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
- Gofalwyr di-dâl
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - cyngor terfynol ynghylch cymhwysedd ar gyfer y brechiad yn erbyn COVID-19 yn hydref 2024 (2 Awst 2024) | LLYW.CYMRU