BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023

Person reading a label on packaged meat

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol. Mae’n rhoi cyngor i adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.

Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o raglen frechu COVID-19, mae’r JCVI heddiw (8 Awst 2023) wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys yn rhaglen frechiadau atgyfnerthu’r hydref yn erbyn COVID-19 yn 2023. Fel erioed, prif nod rhaglen frechu COVID-19 yw hybu imiwnedd ymhlith y rheini sydd â risg uwch pe baent yn cael COVID-19 a sicrhau mwy o amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i’r ysbyty a marwolaeth.

Ar gyfer hydref 2023, mae’r JCVI yn argymell cynnig un dos o frechlyn COVID-19 i’r bobl ganlynol:

  • Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Pob oedolyn 65 oed a hŷn
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y’i diffinnir yn nhablau 3 a 4 o bennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pobl rhwng 12 a 64 oed sydd yn gyswllt cartref, fel y’i diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, i bobl sydd ag imiwnedd isel
  • Pobl rhwng 16 a 64 oed sy’n ofalwyr, fel y’u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu – y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023 (8 Awst 2023) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.