Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw (20 Gorffennaf 2023) rwy’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Diwygiadau i Ailgylchu mewn Gweithleoedd, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithleoedd busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn yr un modd ag y mae mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud. Mae’r cam gweithredu hwn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, ac yn cynrychioli cynnydd sylweddol tuag at greu economi gryfach a gwyrddach fel y gwnaethom ymrwymo i’w wneud yn ein Rhaglen Lywodraethu.
Roedd fy natganiad blaenorol ar reoliadau ailgylchu i weithleoedd ar 27 Ebrill 2023, yn cyd-fynd â chyhoeddi crynodebau o’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023 ar y Cod Ymarfer drafft, a’r dull gweithredu arfaethedig o safbwynt gorfodi a sancsiynau.
- Crynodeb o ymatebion – Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru
- Crynodeb o ymatebion - Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf ar Reoliadau Ailgylchu i Weithleoedd (20 Gorffennaf 2023) | LLYW.CYMRU