Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300 miliwn o gymorth. Mae hefyd wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall.
Yr wythnos diwethaf agorwyd Cam 3 y Gronfa i geisiadau gyda'r cylch cymorth diweddaraf hwn yn rhyddhau £300 miliwn pellach i fusnesau yng Nghymru i'w helpu i ddelio â heriau economaidd y cyfnod atal byr presennol hwn a'u helpu i baratoi ar gyfer dyfodol ar ôl Covid wrth i'r DU ymadael â chyfnod pontio Brexit.
Mae dwy brif ran i gymorth ERF 3:
- Yn gyntaf, pecyn gwerth £200 miliwn o Grantiau i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i helpu'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan yr heriau tymor byrrach o orfod cau yn ystod y cyfnod atal byr, yn ogystal â'r rhai sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau lleol cyn iddo ddechrau. Bydd yr elfen hon yn rhoi cyllid brys i fwy na 60,000 o fusnesau micro a busnesau bach a chanolig i'w helpu gyda chostau sefydlog yn ystod y cyfnod atal byr ac mae'n cynnwys cymorth yn ôl disgresiwn sydd ar gael ar lefel awdurdod lleol. Mae £11 miliwn eisoes wedi cyrraedd busnesau.
- Yn ail, pecyn gwerth £100 miliwn o Grantiau Datblygu Busnes i helpu cwmnïau i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau tymor hwy y maent yn eu hwynebu. Ni fwriadwyd yr elfen hon fel cyllid brys o ddydd i ddydd ond i ariannu prosiectau a all baratoi eu busnes ar gyfer dyfodol ar ôl Covid ac ar ôl ymadael â’r UE.
Mae'r galw am elfen Grant Datblygu Busnes y Gronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn eithriadol gyda bron i 6,000 o geisiadau wedi dod i law. Mae'r gronfa wedi'i rhewi i ganiatáu i asesiad o geisiadau gael ei gynnal.
Fodd bynnag, nid yw'r oedi hwn yn effeithio ar elfen gyntaf a llawer mwy y gronfa – y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gwerth £200 miliwn yr ERF sy'n parhau ar agor.
Darperir cyllid ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael gwybod mwy am Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/y-gronfa-i-fusnesau-dan-gyfyngiadau-symud
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i ddarllen y datganiad gan Lywodraeth Cymru ar Gam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-y-gronfa-cadernid-economaidd-cam-3