BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghori ar ryddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Heddiw (16 Mai 2023), rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion a fyddai’n golygu rhyddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig.

Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ar drywydd ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod llawer o fusnesau o’r farn nad yw’r system ardrethi annomestig yn cynnig cymhelliad i fuddsoddi mewn gwelliannau i eiddo, gan y gallai cynnydd yn y gwerth ardrethol sy'n deillio o hynny arwain at fil uwch.

Bwriedir i'n cynigion ar gyfer rhyddhad gwelliannau helpu i fynd i'r afael â'r rhwystr posibl hwn i fuddsoddi a thwf yn y sylfaen drethi, drwy sicrhau y bydd trethdalwyr yn dechrau gwireddu'r manteision i'w busnes yn sgil y gwelliannau i'w heiddo cyn iddynt gael eu hadlewyrchu yn eu hatebolrwydd ardrethi annomestig. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru'n cynnig darparu'r rhyddhad o 1 Ebrill 2024.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, a gofynnir am ymatebion erbyn 8 Awst 2023.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: Rhyddhad ardrethi gwelliannau
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.