BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol drafft ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Heddiw (28 Mehefin 2022), rwy'n lansio ymgynghoriad ar newidiadau sydd wedi cael eu cynnig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. 

Rhaid i'r ddarpariaeth gofal plant gofrestredig fodloni gofynion rheoliadol, sy'n cael eu llywio gan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae’r rhain yn sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael gwasanaethau sydd o safon uchel; yn ddiogel ac o ansawdd da. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu lleoliadau gofal plant yn erbyn y safonau hyn.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i sicrhau bod y safonau'n parhau'n berthnasol ac yn cefnogi darparwyr i gynnal y safonau uchel a ddisgwyliwn gan ein darparwyr gofal plant a chwarae. 

Yn ystod y pandemig, roedd rhai o'r safonau hyn – yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â lefelau staffio a chymwysterau staff – yn fwy o her i leoliadau gofal plant. Gwnaethom ymateb drwy lacio rhai o'r safonau dros dro er mwyn lleddfu'r pwysau ar ddarparwyr gofal plant. Rhoddodd hyn gyfle i ni roi dan brawf rai o'r newidiadau rydym yn eu cynnig nawr ac i ddysgu o hynny.

Rydym hefyd yn cynnig newidiadau o ganlyniad i'r Adolygiad o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig a gyflwynodd adroddiad yn 2019, gan sicrhau bod y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn parhau'n berthnasol ac yn canolbwyntio ar ddarpariaeth o ansawdd uchel.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau sy'n cael eu cynnig yn y deunydd ymgynghori ac yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol drafft.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 20 Medi 2022. Bydd adborth o'r ymgynghoriad yn helpu i ddatblygu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ymhellach.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.