BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datgloi Llwyddiant Busnes gyda Helpu i Dyfu Cwrs Rheoli

Unlock Business success

Bydd Helpu i Dyfu: Cwrs Rheoli yn eich helpu i hybu perfformiad a gwydnwch eich busnes.

Bydd y cwrs arweinyddiaeth hwn, a gynlluniwyd ac a gyflwynir gan entrepreneuriaid ac arbenigwyr diwydiant mewn ysgolion busnes o’r radd flaenaf, yn darparu amser i ffwrdd o heriau rhedeg busnes i fuddsoddi yn eich arweinyddiaeth ac i ddysgu sut i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf.

Mae rhaglen 12 wythnos ar gael i arweinwyr busnesau bach a chanolig eu maint. Nod y cwrs hwn yw hybu elw, gwella gwydnwch a sicrhau twf hirdymor.

Mae’r cwrs, sydd wedi’i achredu gan y Small Business Charter a’i gefnogi gan Lywodraeth EF, yn cwmpasu arweinyddiaeth, arloesi, mabwysiadu digidol, marchnata, busnes cyfrifol a rheolaeth ariannol.

Dewiswch ysgol fusnes a dyddiadau rhaglen yn eich rhanbarth. Mae’r cwrs yn cynnwys pedair sesiwn wyneb yn wyneb, felly dewiswch raglen y gallwch deithio iddi.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Register onto a course | Small Business Charter

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.