BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dathlu Ecosystem Batris y DU

I ddathlu llwyddiannau'r rhaglen arloesi a ariennir gan Faraday Battery Challenge (FBC), ei phartneriaid a'r ecosystem ehangach, mae FBC yn cynnal digwyddiad a fydd yn:

  • arddangos y gweithgaredd arloesi a gyflwynir fel rhan o rhaglen FBC
  • hyrwyddo trafodaeth mewn perthynas â datblygu ecosystem arloesi batris y DU
  • hwyluso rhwydweithio fel rhan o gystadleuaeth arloesi Rownd 5 Faraday Battery Challenge

Y brif gynulleidfa fydd busnesau a'r byd academaidd i ddathlu eu llwyddiannau ac i ddangos y mathau o brosiectau a ariennir a chyfleoedd i gydweithio â newydd-ddyfodiaid FBC.

Cynhelir y digwyddiad ar 15 Gorffennaf 2022, rhwng 9:30am a 5:00pm yn 155 Bishopgate, Llundain.

Bydd rhaglen y digwyddiad yn cynnwys:

  • arddangosfa o bob rhan o'r portffolio o brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol
  • rhaglen lawn o sgyrsiau i gyflwyno'r gynulleidfa i FBC
  • cyfres o sesiynau cyfochrog sy'n cynnwys sgyrsiau i gwmpasu portffolio FBC
  • trafodaeth banel ar fuddsoddi mewn technolegau batris
  • y cyfle i rwydweithio, yn arbennig, i atgyfnerthu consortia ar gyfer cystadleuaeth arloesi Rownd 5

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i Celebrating the UK Battery Ecosystem - The Faraday Institution

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.