BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datrys problemau cyffredin wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau i symud nwyddau trwy leoliad ar ffin

O 1 Ionawr 2022, rhaid i unrhyw un sy'n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r Undeb Ewropeaidd (UE) drwy leoliad ar ffin sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS) gofrestru gyda’r gwasanaeth.

Gweler y Canllawiau ar wefan HMRC ar sut i wneud cais. 

Bydd y trefniadau presennol ar gyfer symud nwyddau o ynys Iwerddon i Brydain Fawr yn parhau, wrth i’r trafodaethau ar Brotocol Gogledd Iwerddon fynd yn eu blaenau. Ond bydd y gofynion newydd yn effeithio ar nwyddau sy’n cael eu hallforio o Brydain Fawr i Ynys Iwerddon. 

Mae HMRC yn ymwybodol o rai problemau cyffredin sy'n digwydd wrth greu Cyfeirnodau Symud Nwyddau (GMRs) gan ddefnyddio’r GVMS. Mae’r problemau hynny’n gallu arafu symudiadau ar y ffin ac i’w hosgoi, rhaid:

  • Cael GMR ar gyfer pob symudiad, gan gynnwys llwythi gwag.
  • Gofalu’ch bod yn nodi’r math cywir o gyfeirnod ar gyfer datgan eich symudiad. Cyfeirnod Mynediad (ERN) ar gyfer mewnforion trwy CHIEF neu Gyfeirnod Symudiadau (MRN) ar gyfer mewnforion trwy Wasanaeth Datgan y Tollau (CDS). Cyfeirnod Datgan Llwyth Unigryw (DUCR) ar gyfer allforion trwy CHIEF neu CDS. Edrychwch yn GOV.UK - Cael cyfeirnod symud nwyddau i weld pa gyfeirnodau sydd angen eu nodi mewn GMR. 
  • Peidio â defnyddio cyfeirnod y treilar wrth nodi Rhif Cofrestru’ch Cerbyd (VRN) ar y GMR ar gyfer symudiad sy’n dod gyda rhywun.  Hynny am na fyddai’r cludwr yn gallu dilysu’ch GMR. Rhaid i’r VRN gyfateb i VRN y cerbyd sy’n cyflwyno’r GMR. 
  • Peidio ag ychwanegu Cyfeirnodau Symud (MNR) allforion i’r UE ar y GMR. 

Os na fyddwch wedi gwneud yr uchod, caiff eich GMR ei wrthod a chewch chi ddim mynd ar y llong. 

Dylai’r person sy’n gwneud y datganiad tollau ar gyfer y nwyddau rydych yn eu symud: 

  • Ddefnyddio’r cod lleoliad deuol ar gyfer pob datganiad allforio o Brydain Fawr i’r UE os yw’r nwyddau’n cael eu symud trwy Dover a’r Eurotunnel.  Bydd hynny’n rhoi hyblygrwydd ichi o ran dewis llwybr eich taith. Cadarnhewch y codau ar gyfer lleoliadau ‘roll-on roll-off’ ar y ffin i’w defnyddio yn CDS neu CHIEF.
  • Gofalu bod ‘RRSO1’ yn cael ei nodi ar y datganiad tollau ym mlwch 44 y CHIEF neu Elfen Ddata 2/2 ar y CDS, os byddwch yn symud y nwyddau trwy lleoliad ffin sy’n defnyddio’r GVMS.  O beidio â gwneud, ni fydd y GVMS yn gallu ei ddilysu ar y GMR a gyflwynir. Am ragor o fanylion, darllenwch Bapur diweddar y Tollau
  • Cadarnhau statws y datganiadau pan fydd y nwyddau wedi cyrraedd Prydain Fawr, gan y bydd efallai gofyn ichi gymryd camau pellach i ryddhau’r nwyddau os bydd swyddogion y tollau wedi’u dal. 

Dylech nodi’ch GMR wrth ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio a oes angen i chi fod ar gael i fynychu arolygiad i gael gwybod a yw’ch nwyddau wedi’u dal.  Os ydych yn cyrraedd Porthladd Dover neu’r Eurotunnel, bydd angen ichi fynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin i gynnal archwiliad.  Ar bob lleoliad arall ar y ffin sy’n defnyddio GVMS, rhaid ichi fynd i’r cyfleuster archwilio yn neu wrth y porthladd os yw’ch nwyddau wedi’u dal.  

Cofrestrwch ar gyfer GVMS a dysgu sut i symud nwyddau trwy leoliadau ar y ffin sy’n defnyddio’r gwasanaeth. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.