BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datrysiadau Pecynnu Plastig Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannil (ISCF) yn y Dyfodol

Bydd Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £2 filiwn o’r Rhaglen Pecynnu Plastig Cynaliadwy Doeth (SSPP) ar gyfer prosiectau cyfnod cynnar, a gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais.

Mae’r her SSPP yn ceisio sefydlu’r DU fel arloeswr blaenllaw mewn pecynnu plastig cynaliadwy ar gyfer cynhyrchion defnyddwyr. Ei nod yw sicrhau twf glanach ledled y gadwyn gyflenwi, gyda gostyngiad sylweddol mewn gwastraff plastig sy’n cyrraedd yr amgylchedd erbyn 2025.

Mae’n rhaid i brosiectau ddechrau erbyn 1 Mehefin 2021 a dod i ben erbyn 30 Tachwedd 2022, a gallant bara hyd at 18 mis.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11am fore Mercher 20 Ionawr 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.