BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Mae dull partneriaeth gymdeithasol lwyddiannus Cymru, sy'n dod â gweithwyr, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd wedi dod yn gyfraith – wrth i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol.

Dyma'r ddeddf gyntaf yng Nghymru i gael Cydsyniad Brenhinol gan y Brenin Charles III ac mae'n golygu y bydd gweithwyr yn cael mwy o gyfle i lunio polisïau, gweithgareddau a blaenoriaethau strategol ar lefel llywodraeth genedlaethol ac mewn rhai sefydliadau sector cyhoeddus.

Bydd y Ddeddf newydd yn creu fframwaith partneriaeth gymdeithasol statudol drwy Gyngor Partneriaeth Gymdeithasol parhaol i Gymru.

Bydd y dull Tîm Cymru hwn yn uno Llywodraeth Cymru, gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus i weithio tuag at y nod cyffredin o wneud y wlad yn gryfach ac yn lle  tecach i fyw a gweithio ynddo.

Mae’r Ddeddf hon hefyd yn cynnwys darn cyntaf Cymru o ddeddfwriaeth sylfaenol ym maes caffael. Bydd gofyn i gyrff cyhoeddus sicrhau dulliau caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, sy’n golygu rhoi lle canolog i les amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wario swm blynyddol o £8bn yn y maes.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Y cyntaf yn y DU: “Ffordd o weithio sy’n unigryw i Gymru” yn dod yn gyfraith, gan roi llais i gyflogwyr a gweithwyr yn y ffordd y caiff Cymru ei rhedeg | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.