Gall y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres fod yn berthnasol os yw gweithiwr yn darparu ei wasanaethau drwy gyfryngwr.
Cwmni gwasanaeth personol y gweithiwr fydd y cyfryngwr fel arfer. Gallai hefyd fod yn bartneriaeth, yn gwmni gwasanaethau a reolir neu’n unigolyn.
Mae'r rheolau’n gwneud yn siŵr bod gweithwyr, a fyddai wedi bod yn gyflogeion pe baent yn darparu eu gwasanaethau i'r cleient yn uniongyrchol, yn talu mwy neu lai yr un faint o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol â chyflogeion.
Gelwir y rheolau hyn yn ‘IR35’ weithiau.
Gallai'r rheolau hyn fod yn berthnasol i chi:
- os ydych chi’n weithiwr sy’n darparu gwasanaethau drwy gyfryngwr
- os ydych chi’n gleient sy’n cael gwasanaethau gan weithiwr drwy gyfryngwr
- os ydych chi’n asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau gweithwyr drwy gyfryngwr
Os yw’r rheolau’n berthnasol, mae’n rhaid didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o ffioedd a’u talu i CThEM.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.