Mae gan Newid gyfle cyffrous i Sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru ymuno â her ddylunio i archwilio sut y gall Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio helpu eich sefydliad arbed amser.
Nodau:
- Yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i gyfranogwyr roi datrysiadau digidol ar waith wrth ddilyn dull ystwyth sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.
- Hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i arbed amser a macsimeiddio'r effaith gymdeithasol.
Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn:
- Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu
- Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio
- Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol
- Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
- Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth
- Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
- Cael mynediad at adnoddau
Mae'r cwrs yn dechrau ar 1 Hydref 2024.
Cofrestrwch ar y cwrs: Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd · Zoom · Luma