BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref heddiw yng Nghymru

Mae’r broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref wedi dechrau heddiw (1 Medi 2022) yng Nghymru gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru y rhai cyntaf i gael y brechlyn.

Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref yn cael eu gwahodd am frechiad gan eu byrddau iechyd. Bydd gwahoddiadau’n cael eu rhoi yn nhrefn y rhai mwyaf agored i niwed, gyda phawb sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Rhagfyr.

Bydd y brechlyn yn helpu i gefnogi imiwnedd pawb sydd mewn mwy o berygl rhag COVID-19, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol. Bydd hyn yn helpu i gefnogi’r GIG hefyd yn ystod gaeaf 2022-23.

Yr hydref hwn, yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd un dos o’r pigiad atgyfnerthu COVID-19 yn cael ei gynnig i’r bobl ganlynol:

  • Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd â system imiwnedd wan
  • Pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Dechrau rhoi pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref heddiw yng Nghymru | LLYW.CYMRU

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.