Bydd mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal blant a ariennir diolch i fuddsoddiad pellach o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid ychwanegol yn rhan o gynllun gam wrth gam i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais benodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Bydd y buddsoddiad newydd yn caniatáu i 2,200 yn fwy o blant fanteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg yn 2023-24.
Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant ifanc sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae’n cynnwys gofal plant rhan-amser am ddim i blant dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:
- Mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal blant a ariennir diolch i fuddsoddiad pellach o £10 miliwn | LLYW.CYMRU
- Hoffech chi help llaw gan Dechrau’n Deg | LLYW.CYMRU