BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dechreuwch allforio i Ganolbarth Asia a Dwyrain Ewrop

business packing boxes to export product

Mae'r Adran Busnes a Masnach yn cynnal gweminar ar 10 Medi 2024 am 10.30am i ddweud wrth fusnesau yng Nghymru am gyfleoedd yn rhai o farchnadoedd mwyaf diddorol y byd.

Bydd Kenan Poleo, Comisiynydd Masnach Ei Mawrhydi yn annerch ynghyd â busnesau o Gymru sydd wedi bod yno ac wedi ennill busnes dramor. Bydd y weminar yn para awr, i'ch dysgu am y cymorth sydd ar gael a chlywed gan bennaeth busnes bach sut mae gwerthu yn y rhanbarth.

Y gwledydd yn rhanbarth Dwyrain Ewrop a Chanolbarth Asia yw: Armenia, Azerbaijan, Georgia, Kazakhstan, Kyrgyzstan, Moldofa, Mongolia, Tajikistan, Twrci, Turkmenistan, Uzbekistan ac Wcráin

Mae cofrestru yn rhad ac am ddim: https://eu.eventscloud.com/website/14610/ cofrestrwch erbyn 9 Medi 2024. Sylwer, bydd y sesiwn hon yn Saesneg yn unig. 

Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch DBTWales@businessandtrade.gov.uk

Beth bynnag rydych yn ei gynnig – gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch – fe allai allforio weddnewid bron pob elfen o’ch busnes. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Pan allforio? | Drupal (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.