BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddf Deallusrwydd Artiffisial: Cyngor yn rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r rheolau byd-eang cyntaf ar gyfer deallusrwydd artiffisial

AI Regulation Concept: Circuit Brain with European Union Stars Symbolising Legislation

Mae'r Ddeddf Deallusrwydd Artiffisial yn elfen allweddol o bolisi'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer meithrin y datblygiad a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial diogel a chyfreithlon, sy'n parchu hawliau sylfaenol, ar draws y farchnad sengl.

Mae Cyngor yr UE wedi cymeradwyo cyfraith arloesol gyda’r bwriad o gysoni rheolau ar ddeallusrwydd artiffisial, sef y ddeddf deallusrwydd artiffisial fel y'i gelwir. Mae'r ddeddfwriaeth flaenllaw yn 'seiliedig ar risg', sy'n golygu bod llymder y rheolau yn amrywio yn ôl y perygl o niweidio cymdeithas. Dyma'r ddeddf gyntaf o'i bath yn y byd, a gallai osod safon fyd-eang ar gyfer rheoleiddio deallusrwydd artiffisial.

Nod y gyfraith newydd yw meithrin y datblygiad a’r defnydd o systemau deallusrwydd artiffisial diogel a dibynadwy ar draws marchnad sengl yr UE, a hynny gan sefydliadau preifat a rhai cyhoeddus. Nodau eraill yw sicrhau bod hawliau sylfaenol dinasyddion yr UE yn cael eu parchu ac ysgogi buddsoddiad ac arloesedd ym maes deallusrwydd artiffisial yn Ewrop. Dim ond i ardaloedd o fewn cyfraith yr UE y mae’r Ddeddf yn berthnasol, ac mae’n darparu rhai eithriadau, megis ar gyfer systemau a ddefnyddir at ddibenion milwrol ac amddiffyn yn unig, yn ogystal ag at ddibenion ymchwil.

Ar ôl cael ei llofnodi gan lywyddion Senedd Ewrop a'r Cyngor, bydd y ddeddf yn cael ei chyhoeddi yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr UE yn y dyddiau nesaf, a bydd yn dod i rym ugain diwrnod ar ôl y cyhoeddiad hwnnw. Bydd y rheoliad newydd yn berthnasol ddwy flynedd ar ôl iddo ddod i rym, gyda rhai eithriadau ar gyfer darpariaethau penodol. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Artificial intelligence (AI) act: Council gives final green light to the first worldwide rules on AI - Consilium (europa.eu)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.