BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddf newydd ar ailgylchu yn y gweithle

A group of employees in a pleasant atmosphere in the office ,collecting plastic bottles in the recycling bin.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad yn y sector cyhoeddus wahanu ei wastraff i’w ailgylchu yn ôl y gyfraith. Bydd hyn yn gwella ansawdd a maint y ffordd rydym yn casglu ac yn gwahanu gwastraff.

Bydd y gofynion cyfreithiol i ddidoli gwastraff yn effeithio ar y canlynol:

  1. Pob gweithle (busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector).
  2. Y rhai sy'n casglu'r gwastraff, neu'n trefnu i'r gwastraff gael ei gasglu.
  3. Y rhai sy'n casglu, derbyn, cadw, trin neu gludo gwastraff – bydd rhaid iddyn nhw gadw'r gwastraff ar wahân i fathau eraill o wastraff neu sylweddau.

Bydd angen didoli’r deunyddiau canlynol cyn iddyn nhw gael eu casglu, a’u casglu ar wahân: 

  1. Bwyd ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu 5kg a mwy o wastraff bwyd yr wythnos.
  2. Papur a chardfwrdd.
  3.  Gwydr.
  4. Metel, plastig, a chartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg.
  5. Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu.
  6. Tecstilau heb eu gwerthu.

Bydd y canlynol hefyd yn cael eu gwahardd:

  • Taflu gwastraff bwyd i garthffosydd
  • Anfon rhai mathau o wastraff a gesglir ar wahân a phob math o wastraff pren i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi

Os ydych chi’n weithle:

  1. Edrychwch ar y gwastraff rydych yn ei gynhyrchu a dewiswch y gwasanaeth cywir gan eich contractwr gwastraff. 
  2. Ystyriwch a oes angen prynu biniau newydd, neu fwy o finiau. 
  3. Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff ac egluro’r newidiadau wrth ymwelwyr neu’r rhai sy’n defnyddio’ch eiddo. 

Os ydych yn gasglwr gwastraff:

  1. Dechreuwch gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid am y newidiadau arfaethedig.
  2. Ystyriwch yr angen i gaffael mwy o finiau neu brynu biniau newydd. 
  3. Meddyliwch am sut i hyfforddi eich staff i baratoi cwsmeriaid ar gyfer y newidiadau. 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio'r gofynion ar gyfer didoli gwastraff a'r gwaharddiad ar anfon gwastraff i safleoedd llosgi a safleoedd tirlenwi. Bydd Awdurdodau Lleol yn rheoleiddio'r gwaharddiad ar daflu gwastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig. 

Bydd yn dod yn gyfraith o 6 Ebrill 2024 ymlaen, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ac os na fyddwch yn cydymffurfio gallech wynebu dirwy. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol yn helpu gweithleoedd i gydymffurfio a rheoli gwastraff yn y ffordd gywir.

Nid yn unig mae'r newidiadau hyn yn canolbwyntio ar wella maint ac ansawdd yr hyn sy'n cael ei ailgylchu, ond maen nhw hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni ymrwymiad Cymru i sicrhau dim gwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050. 

Mae'r Rheoliadau'n gweithredu nifer o gamau i gynyddu ansawdd a lefel yr ailgylchu sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, 'Mwy Nag Ailgylchu, Strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti'.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

Casgliad ar wahân o ddeunyddiau gwastraff ar gyfer ailgylchu - beth sydd angen i'ch busnes wybod?

Bydd y weminar am ddim, ar 17 Ebrill 2024, yn eich diweddaru ar newidiadau arfaethedig i reoliadau rheoli Gwastraff, sy'n gosod rheidrwydd ar bob busnes i wahanu llifoedd gwastraff ar gyfer casglu ac ailgylchu. Archebwch nawr: Business Wales Events Finder - Casgliad Ar Wahân o Ddeunyddiau Gwastraff ar gyfer Ailgylchu - Beth sydd angen i'ch busnes wybod?


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.