BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddfau rhoi tip yn dod i rym

Cafe worker looking at a customer

Bydd miliynau o weithwyr yn elwa o gyfreithiau newydd a fydd yn sicrhau eu bod yn cadw 100% o'r arian y maent wedi'i ennill yn sgil cael tip.

Daeth y Ddeddf Cyflogaeth (Dyrannu Tipiau) a'r Cod Ymarfer statudol ar ddosbarthu tipiau yn deg ac yn dryloyw i rym ar 1 Hydref 2024, wedi iddi gael ei chyflwyno drwy Fil Aelod Preifat y llynedd. 

Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr drosglwyddo'r holl dipiau, arian rhodd a thaliadau gwasanaeth i weithwyr, heb ddidyniadau.

Os yw cyflogwr yn torri'r gyfraith ac yn cadw tipiau, bydd gweithiwr yn gallu dwyn hawliad gerbron tribiwnlys cyflogaeth. 

Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr eisoes yn rhoi tipiau i'r staff sy'n eu hennill; fodd bynnag, bydd y cyfreithiau hyn yn mynd i'r afael â'r lleiafrif o fusnesau sy'n parhau ag arferion tipio annerbyniol.

Gallai cyflogwyr sy’n torri’r gyfraith gael eu gorfodi i dalu dirwyon neu iawndal i staff, gyda gweithwyr yn gallu sicrhau bod cyflogwyr yn gwbl atebol trwy dribiwnlysoedd cyflogaeth.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Millions to take home more cash as Tipping laws come into force - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.