BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddfu i gefnogi twristiaeth yng Nghymru

Visitors in Dolgellau outside a shop

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu deddfwriaeth a fydd yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru. Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ddatganiad i ddiweddaru'r Senedd. Darllenwch y datganiad ysgrifenedig yn llawn ar: Datganiad Ysgrifenedig: Deddfu i gefnogi twristiaeth yng Nghymru (12 Tachwedd 2024) | LLYW.CYMRU

Maent hefyd wedi ysgrifennu llythyr agored at aelodau'r Fforwm Economi Ymwelwyr i'w diweddaru. Mae'r llythyr yn diolch i'r sector twristiaeth am yr adborth adeiladol a'r ymgysylltiad hyd yma wrth i'r gwaith hwn ddatblygu. Disgwylir i'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gael ei gyflwyno i'r Senedd ar 25 Tachwedd.

Trwy ymgynghori, ymgysylltu parhaus a'r gwaith darganfod a arweinir gan Awdurdod Cyllid Cymru, rydym wedi cael adborth cyson bod angen math o gofrestru ar waith i gefnogi'r ardoll. Mae hyn wedi llywio ein penderfyniad i gynnwys cofrestr genedlaethol o bawb sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru o fewn y bil ardoll. 

Dyma'r cam cyntaf tuag at gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru. Bydd deddfwriaeth bellach yn cael ei chyflwyno i'n symud tuag at ddarparwyr llety ymwelwyr yn gallu dangos sut mae eu llety yn bodloni amodau penodol.

Am fwy o fanylion ac i ddarllen y llythyr yn llawn ewch i Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu Statudol ar gyfer holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.