BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddfwriaeth diogelwch tân newydd

Mae modd atal llawer o danau yn y gweithle ac nid yw rhai busnesau byth yn gwella ar ôl tân. Mae helpu busnesau i reoli eu risgiau tân a’r peryglon, ac o bosibl i achub bywydau a diogelu eu busnesau rhag colled ariannol a masnachol yn hollbwysig. Gall mesurau syml i leihau’r risg o dân yn cynnau, a sicrhau bod staff yn gwybod sut i ymateb yn y ffordd gywir, helpu i gadw pobl yn ddiogel ac mae hyn yn gwneud synnwyr busnes.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn bydd llawer o fusnesau'n paratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig ac efallai y bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio arnynt hefyd. Mae’n bwysig bod busnesau’n ystyried y risg o dân mewn unrhyw newidiadau a wnânt a sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o ddiogelwch tân yn y gweithle.

O 1 Hydref 2023 bydd deddfwriaeth diogelwch tân newydd yn dod i rym. Bydd hyn yn golygu bod angen i lawer o fusnesau a pherchnogion adeiladau wirio a yw hyn yn effeithio arnynt a sut, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau.

Y prif newidiadau yw:

  • Bydd angen i bob busnes gofnodi asesiad risg tân a threfniadau diogelwch tân yn llawn – waeth beth fo nifer y gweithwyr, a maint neu fath o fusnes.
  • Mae gofynion cynyddol ar gyfer cydweithredu a chydgysylltu rhwng Personau Cyfrifol mewn adeiladau amlfeddiannaeth neu'r rhai lle nad yr un person yw'r deiliad a'r perchennog.
  • Mewn adeiladau preswyl sydd â dau neu fwy o eiddo domestig, rhaid rhoi gwybodaeth i breswylwyr am y risgiau o dân a'r mesurau diogelwch tân a ddarperir i'w cadw'n ddiogel.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:Cyfrifoldebau Diogelwch Tân o dan Adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022: canllawiau | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.