Oeddech chi'n gwybod y gall busnesau sydd â budd amgylcheddol ofyn am brosesu eu cais am batentau yn gyflymach?
Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cynnig gwahanol ddulliau o gyflymu'r broses o brosesu eich cais am batentau.
Cyflwynwyd y Sianel Werdd ar gyfer ceisiadau patentau ar 12 Mai 2009. Mae'r gwasanaeth hwn yn caniatáu i ymgeiswyr ofyn am brosesu eu cais am batentau yn gyflymach os oes gan y ddyfais fudd amgylcheddol.
Rhaid i'r ymgeisydd wneud cais ysgrifenedig, gan nodi:
- Sut mae eu cais yn ecogyfeillgar.
- Pa gamau y maent eisiau eu cyflymu: chwilio, archwilio, chwilio ac archwilio cyfunol, a/neu gyhoeddi.
Mae'r gwasanaeth ar gael i ymgeiswyr patentau sy'n gwneud haeriad rhesymol bod gan y ddyfais rywfaint o fudd amgylcheddol. Er enghraifft, os yw'r ddyfais yn banel solar neu'n dyrbin gwynt, yna mae datganiad syml yn debygol o fod yn ddigon. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen mwy o esboniad ar broses weithgynhyrchu mwy effeithlon sy'n defnyddio llai o ynni.
Bydd ceisiadau ond yn cael eu cyflymu pan fydd yr ymgeisydd yn gofyn am hynny; nid oes mynediad awtomatig at sianel werdd ar gyfer meysydd technoleg penodol.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Patents: accelerated processing - GOV.UK (www.gov.uk)