BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Defnyddio’r Gymraeg – Cadw Cwsmeriaid Ffyddlon – Digwyddiad Rhithiol

Am wybod sut gall defnyddio’r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes?

Ymuna yn ddigwyddiad rhithiol Helo Blod ‘Defnyddio’r Gymraeg – Cadw cwsmeriaid Ffyddlon’ yn rhad ac am ddim, i glywed gan 3 busnes – Jin Talog, Sir Gâr, Dyfi Reflexology, Powys a Beeswax Fabric Wraps, Ynys Môn sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn llwyddiannus.

Mae’n gyfle hefyd i ddysgu sut gall Helo Blod helpu dy fusnes ddefnyddio’r Gymraeg am ddim: 

  • Dod â phobl at ei gilydd. 
  • Creu ewyllys da.
  • Cadw cwsmeriaid ffyddlon.

Mae’r digwyddiad am 7pm ar 22 Medi 2020.  Mae’r digwyddiad yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

I ymuno, cofrestra ar dudalen Eventbrite neu cysyllta â: daniela.schlick@heloblodlleol.cymru @HeloBlod Llyw.Cymru/HeloBlod

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.