Yn y gweithdy datblygu cynnyrch newydd (DCN) hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd cwmnïau bwyd a diod yn cael mynediad at fewnwelediad o’r radd flaenaf gan arweinwyr y diwydiant.
Mae ymchwil Deietau’r Dyfodol yn rhoi golwg gyntaf, hirdymor ar arferion bwyta defnyddwyr dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn helpu busnesau i ddatblygu fframwaith cynllunio sy’n hanfodol ar gyfer DCN hirdymor a strategaeth fusnes lwyddiannus.
Bydd y cynrychiolwyr yn:
- Deall yn fanwl y ffordd y bydd dietau defnyddwyr yn datblygu dros y 10 mlynedd nesaf
- Cymryd rhan mewn gweithdy ysbrydoledig i roi hwb i syniadau DCN yn eu busnes
- Bod ag o leiaf un syniad i fynd yn ôl at eu busnes a datblygu i mewn i’w strategaeth DCN
Mae’r ymchwil a rannwyd yn y digwyddiad diwrnod llawn hwn yn torri tir newydd a bydd yn hanfodol i unrhyw fusnes bwyd a diod o Gymru.
Mae’r digwyddiad hwn yn digwydd mewn lleoliadau ledled Cymru:
Am fwy o wybodaeth, ewch i Deietau'r Dyfodol - Gweithdai Datblygu Cynnyrch Newydd - Food Innovation Wales