Yn dilyn llwyddiant anferthol camau 1 a 2 ac ymateb calonogol rhanddeiliaid iddynt, mae’r Adran Diogelu’r Cyflenwad Ynni a Sero Net (DESNZ) wedi cyhoeddi ei bod am lansio Cam 3 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF).
Bydd Cam 3 yr IETF yn werth £185 miliwn o grantiau i fusnesau’r DU ar gyfer cynnal astudiaethau a phrosiectau cyflawni ar gyfer arbed ynni a datgarboneiddio. Bydd yr adran yn ymgynghori â diwydiannau’r DU nes ymlaen eleni i benderfynu ar ddyluniad Cam 3 y gronfa cyn lansio’r cyfnod ymgeisio cyntaf amdano yn gynnar flwyddyn nesaf.
Mae DESNZ wrthi’n llunio’n cynlluniau a phennu amserlen ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad ar Gam 3 y Gronfa a’i lansio ond bydd yn rhaid cymeradwyo’r achos busnes yn gyntaf. Bydd yr Adran yn trafod â rhanddeiliaid yn rheolaidd dros y misoedd i ddod a byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn y man.
Os oes gennych gwestiynau am yr IETF, e-bostiwch y tîm yn IETF@beis.gov.uk