BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Briffio Gwobrau Arloesedd Cynhwysol 2022/23

Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i ddathlu cynhwysiant mewn arloesedd. Bydd 50 o wobrau’n cael eu cynnig i fentrau micro, bach neu ganolig ledled y DU i gefnogi amrywiaeth mewn busnesau.

Mae Innovate UK ac Innovate UK KTN yn cynnal digwyddiad briffio ar 26 Medi 2022, i roi mwy o wybodaeth i chi am y cwmpas ar gyfer y gystadleuaeth hon a'r gefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 yr un ar gyfer datblygu gwaith sydd eisoes yn bodoli, neu ddatblygu waith newydd, ar arloesiadau cynhwysol. Bydd y digwyddiad briffio hwn yn dweud mwy wrthych am gwmpas y gystadleuaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael i ymgeiswyr.

Mae'r Gwobrau Arloesedd Cynhwysol ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 26 Medi 2022 a 9 Tachwedd 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Innovation Awards 2022/23 Briefing Event - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.