Lansiwyd rhaglen Merched sy’n Arloesi Innovate UK ar 1 Mehefin 2016 i fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth menywod sy’n ymgysylltu ag Innovate UK, er mwyn annog mwy o fenywod â syniadau gwych i arloesi mewn busnesau yn y DU, a hybu’r economi.
Mae’r rhaglen a gynhelir gan KTN ac Innovate UK Edge yn galluogi menywod gwych i gyflawni eu gweledigaeth yn llawn a newid y byd, tra’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth o ran rhywedd ledled maes arloesi yn y DU.
Drwy Wobrau Merched sy’n Arloesi 2021/22, bydd menywod sy’n entrepreneuriaid yn derbyn buddsoddiad gwerth £50,000 yr un, ynghyd â phecyn pwrpasol o gymorth busnes, hyfforddi a mentora.
Mae Innovate UK a KTN yn cynnal digwyddiad briffio i egluro mwy am gwmpas y gystadleuaeth hon, y broses ymgeisio a’r cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr.
Os ydych chi’n sylfaenydd, yn gyd-sylfaenydd neu’n uwch benderfynwr benywaidd sy’n gweithio mewn cwmni wedi’i leoli yn y DU, ymunwch â’r digwyddid briffio i gael rhagor o wybodaeth!
Cynhelir y digwyddiad yn rhithwir ar 24 Awst 2021 rhwng 10am a 12:30pm.
Am ragor o wybodaeth, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Women in Innovation Awards 2021/22 Briefing Event (cvent.com)