BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Datrysiadau Busnes Cynaliadwy rhad ac am ddim i Fusnesau Canolbarth Cymru

Free sustainable Business solution event

Ymunwch â Thyfu Canolbarth Cymru, ar y cyd â Chynghorau Sir Powys a Cheredigion, ar gyfer digwyddiad am ddim ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni.

Y nod yw rhoi cyfle i fusnesau Canolbarth Cymru ddod ynghyd â siarad am beth sydd ei angen arnynt at y dyfodol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni.

Cynhelir y digwyddiad o 10am tan 2pm ddydd Gwener, 9 Chwefror 2024 yn Fferm Bargoed ger Aberaeron.

Bydd amrywiaeth o siaradwyr yn cymryd rhan, gan gynnwys Diwydiant Sero Net Cymru, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r rhwydweithiau ynni.  

Mae angen i fusnesau gofrestru i fod yn bresennol gan ddefnyddio ffurflen Eventbrite cyn 2 Chwefror 2024: Tocynnau Datrysiadau Busnes Cynaliadwy Canolbarth Cymru

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Tyfu Canolbarth Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.