Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad Ras i Sero, Ewrop – Countdown i COP26 a gynhaliwyd ym mis Hydref 2021, mae cyfle nawr i fusnesau ymuno â gweithdy unigryw yn archwilio sut y gall busnesau gyflawni'r uchelgais sero-net drwy lens 2030 Breakthroughs yr Hyrwyddwyr Hinsawdd a'r Glasgow Breakthroughs, a lansiwyd yn COP26.
Bydd y gweithdy'n dwyn ynghyd fusnesau bach a chanolig a busnesau mwy, gydag arbenigwyr o blith cynghorwyr polisi, ymchwilwyr a swyddogion cyrff anllywodraethol, i drafod cyfleoedd i sicrhau datblygiadau wrth arloesi a defnyddio technoleg lân ar draws sectorau yn Ewrop, yn ogystal â chwalu'r rhwystrau sy'n parhau.
Bydd y gweithdy'n rhyngweithiol, yn llawn gwybodaeth ac yn gydweithredol. Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda golwg ar ganlyniadau COP26 a blaenoriaethau ar gyfer blwyddyn Llywyddiaeth y DU, ac yna bydd cyflwyniad i'r Agenda Breakthrough a sut y gall gwledydd a busnesau ddod at ei gilydd i gyflymu'r broses o drosglwyddo i dechnoleg lân drwy'r Glasgow Breakthroughs a’r 2030 Breakthroughs fel sy'n briodol.
Bydd y rhan fwyaf o'r digwyddiad yn cael ei ddefnyddio i roi amser i'r rheini sy'n cymryd rhan rannu syniadau a gwybodaeth â busnesau eraill yn eu sector. Bydd sesiynau trafod yn cael eu hwyluso i edrych yn fanylach ar y rhwystrau sy'n wynebu busnesau a nodi cyfleoedd o fewn sectorau penodol, gan rannu arferion gorau lle mae hyn eisoes yn cael ei wneud.
Bydd y grwpiau trafod yn canolbwyntio ar y sectorau canlynol;
- ynni glân
- defnydd tir ac amaethyddiaeth
- amgylchedd adeiledig
- trafnidiaeth
- BBaChau
Mae'r gweithdy am ddim a bydd yn cael ei gynnal ar-lein ar 24 Chwefror 2022 rhwng 12pm a 2pm.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i Eventbrite