BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Rhithwir Technoleg Ac Arloesedd I Gynorthwyo BBaChau Yng Nghymru

Mae tîm arloesedd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad rhithwir i helpu BBaChau i gael at y cyllid a’r cymorth i’w galluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd a chryfhau eu dyfodol.

Bydd y digwyddiad rhithwir ar 17 Mawrth 2021 yn dangos sut mae busnesau yng Nghymru wedi trawsnewid trwy gyllid y llywodraeth a thrwy fabwysiadu agwedd arloesol at dechnoleg.
 Bydd y cynrychiolwyr hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan bobl fusnes sydd eisoes wedi elwa o weithio gydag arbenigwr ar arloesedd.

Cofrestrwch nawr i dreulio diwrnod yn gweithio ar eich busnes, nid dim ond yn eich busnes.

Cofrestrwch nawr: https://waterfront.eventscase.com/CY/smartinnovation
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.