BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Rhwydweithio Am Ddim - Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota

Lambing at Llwyn-yr-eos Farm

Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, wedi cydweithio i gynnig cyfle unigryw i fusnesau yng Nghymru i sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleurwydd. Nod y Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota yw cyflwyno gwelliannau mesuradwy o ran cynhyrchiant, drwy rannu a darparu hyfforddiant mewn egwyddorion rheoli darbodus.

Dewch i glywed straeon cwmnïau sydd wedi cymeryd rhan yn y Rhaglen, yn ogystal â gan Aelodau Canolfan Rheoli Darbodus Toyota; a fydd yn cefnogi'r gweithgaredd, yn rhannu eu profiadau ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â bod yn ddarbodus.

Pryd
12 Medi 2023, 10am i 2pm.

Lle
Canolfan Rheoli Darbodus Toyota, Glannau Dyfrdwy, CH5 2TW.

I gael rhagor o wybodaeth ac archebu eich lle, cliciwch y ddolen ganlynol Digwyddiadur Busnes Cymru - Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.