BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Rhwydweithio Ar-lein ar gyfer Entrepreneuriaid Anabl

Person listening to a webinar

Mae Small Business Britain wedi bod yn gweithio gyda banc Lloyds i ddeall entrepreneuriaeth yn y DU ac maen nhw’n eich gwahodd i ymuno â Digwyddiad Rhwydweithio Ar-lein ar gyfer Entrepreneuriaid Anabl.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar 13 Mehefin 2024, yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu wneud cysylltiadau newydd, rhannu gwybodaeth a chael cefnogaeth ychwanegol gan gymheiriaid.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle:  Online Networking Event (google.com)

Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru

Darllenwch y canllaw, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes ac i gynghorwyr am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal neu’n datblygu eu busnes yng Nghymru, a'u cefnogi: Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi entrepreneuriaid anabl yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.