Mae digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar 26 Ebrill 2024 am 9am, er mwyn i gyflogwyr Gogledd Cymru ddarganfod atebion ar gyfer goresgyn heriau’r gweithlu.
Mae’r digwyddiad ‘Taclo Heriau Gweithlu a Sgiliau’ yn croesawu busnesau a diwydiannau o bob maint sydd eisiau cymorth gyda recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr.
Bydd busnesau’n dysgu gan arbenigwyr am reoli eu gweithlu a dod yn gyflogwr o ddewis. Gyda chyfleoedd rhwydweithio, trafodaethau panel, a gweithdai, bydd hefyd arddangosfa ‘cwrdd â’r arbenigwyr’ gyda sefydliadau sy’n cefnogi cyflogwyr gyda heriau gweithlu.
Mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim gyda nifer cyfyngedig o lefydd ar gael.
Cofrestrwch am docynnau ar Eventbrite: Tocynnau Taclo Heriau Gweithlu a Sgiliau | Navigating Workforce and Skill Challenges, dydd Gwener 26 Ebrill 2024 am 09:00 | Eventbrite
Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Newyddion - Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (partneriaethsgiliaugogledd.cymru)