BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau diwydiant Cam 2 IETF ar gyfer busnesau

Yn ddiweddar, agorodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) gystadleuaeth newydd, Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2 (IETF) 2: Haf 2022 ac mae'n cynnal cyfres o glinigau rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid IETF. Gall busnesau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr wneud cais nawr am gyfran o hyd at £70 miliwn o gyllid grant drwy'r ffenestr cystadlu newydd, sy'n cael ei gynnal o 30 Mai 2022 i 9 Medi 2022 

 

Digwyddiad Arddangos Technoleg Effeithlonrwydd Ynni Diwydiannol BEIS

 

Bydd BEIS yn cynnal digwyddiad byw ar y cyd rhwng IETF-IEEA yn Birmingham ddydd Iau 14 Gorffennaf 2022 i arddangos rhai o brosiectau a ariennir gan yr IETF a'r Cyflymydd Effeithlonrwydd Ynni Diwydiannol (IEEA). Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfle i glywed gan safleoedd gweithgynhyrchu sy'n bwriadu defnyddio technolegau i leihau eu galw am ynni fel adfer gwres, VAR, rheoli prosesau a lleihau eu hallyriadau carbon fel dal carbon a newid tanwydd i hydrogen.

 

I gofrestru i fynychu'r Arddangosfa Dechnoleg, ewch i BEIS Industrial Energy Efficiency Technology Showcase Tickets, Thu 14 Jul 2022 at 10:00 | Eventbrite

 

Clinigau rhanddeiliaid IETF

 

Mae'r clinigau rhanddeiliaid yn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyllid Cam 2 drwy eu galluogi i siarad yn uniongyrchol â BEIS a gofyn cwestiynau am geisiadau posibl, cwmpas y cystadlaethau, y meini prawf cymhwysedd, sut i wneud cais am gyllid, gwasanaethau cymorth a gwybodaeth IETF sydd ar gael, ac ati. 

 

Maent yn gyfle gwych i ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau. Cynhelir y clinigau bob pythefnos gyda'r rhai cyntaf yn cael eu cynnal ar 12 Gorffennaf 2022 a 26 Gorffennaf 2022.

 

I gofrestru i fynychu'r clinigau rhanddeiliaid, ewch i Summary - Industrial Energy Transformation Fund Phase 2 Summer 2022 Competition Clinics (cvent.com)

Marchnad Technoleg Rithwir IETF

Er mwyn cefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid yr IETF, mae BEIS yn cynnal y Farchnad Technoleg Rithwir, sy'n cynnig cyfle i berchnogion safleoedd diwydiannol (gweithgynhyrchwyr a chanolfannau data cymwys) bori fideos sy'n arddangos technolegau posibl ar gyfer lleihau'r angen i ddefnyddio ynni a'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'u prosesau diwydiannol.

I gofrestru ar gyfer y Farchnad Dechnoleg ewch i’r wefan gofrestru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.