BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Expo Busnes Cymru 2024

Handshake, business deal

Ymunwch â ni yn y Digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwyr yn Abertawe, 10 Medi 2024, a Llandudno, 2 Hydref 2024, am gyfle unigryw i gysylltu â phrynwyr blaenllaw o Gymru.

Gyda gwerth dros £7.5 biliwn o gontractau gweithredol ar gael yn y sector cyhoeddus, mae’r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad gwych i fusnesau bach a chanolig i fachu ar gyfleoedd busnes cyffrous.

O lanhau ac adeiladu i wasanaethau trydanol, cyflenwyr bwyd, cynnal a chadw, cadw’r tir, plymio a llawer mwy - cewch wybod am gyfleoedd cyflenwi menw pob math o sectorau.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld sut allai eich busnes chi elwa - dewch draw i drafod yn uniongyrchol â rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Gallech hyd yn oed ddod o hyd i’ch contract mawr nesaf!

I sicrhau eich lle cofrestrwch yma: Cofrestru Mynychwyr | Business Wales Expo

Cyflwynir y digwyddiad cyffrous hwn i chi gan dimau'r Economi Sylfaenol, Busnes Cymru a GwerthwchiGymru Llywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.