BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Google Digital Garage

Person delivering training on website performance

Mae Enterprise Nation a Google wedi dod ynghyd i annog busnesau Prydain i dyfu. Google Digital Garage yw un o raglenni mwyaf blaenllaw Google yn y DU, ac mae’n cynnig hyfforddiant sgiliau digidol a mentora am ddim i berchnogion busnesau bach.

Bydd y digwyddiadau'n cynnig hyfforddiant am ddim i bobl sy’n berchen ar fusnesau bach, sy’n ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain, neu sy’n awyddus i ddatblygu eu rhagolygon gwaith.

Dewch i un o’r digwyddiadau i gael hyfforddiant arbenigol ar ystod o bynciau sy'n gysylltiedig â thwf, gan gynnwys strategaethau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, cysylltu â mwy o gwsmeriaid, a rheoli eich ôl troed digidol.

Bydd cynghorwyr dibynadwy Enterprise Nation yn cynnal sesiynau ar y pynciau canlynol:

  • Hybu gwerthiant ar-lein gyda Google Business Profile
  • Datblygu strategaeth farchnata ddigidol
  • Gwneud eich busnes yn weladwy ar Google
  • Defnyddio Google Analytics i olrhain traffig eich gwefan

Cewch gyfleoedd i rwydweithio, a gallwch hefyd drefnu sesiynau mentora preifat trwy gydol y dydd gyda Hyfforddwyr Google Digital a fydd yn canolbwyntio ar eich nodau personol chi i ehangu eich busnes neu i ddatblygu eich gyrfa.

Bydd dau ddigwyddiad yng Nghymru ar 12 Gorffennaf 2024, ac mae’r manylion isod:

  • Google Digital Garage: Gŵyr – 10am tan 3pm, archebwch eich lle yma
  • Google Digital Garage: Merthyr Tudful – 10am tan 3pm, archebwch eich lle yma

Digwyddiadur Busnes Cymru

Defnyddiwch Ddigwyddiadur Busnes Cymru i chwilio am sesiynau hyfforddi, gweithdai, rhwydweithio, seminarau a mwy ym maes busnes gan amrywiaeth o sefydliadau: Digwyddiadur Busnes Cymru (business-events.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.