Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas COVID i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng.
O heddiw 18 Chwefror 2022, ni fydd angen y Pas COVID domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond os bydd y lleoliad neu’r digwyddiad ei hun am fynnu pas, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.
Bydd y Pas COVID rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau ar gyfer gwneud teithiau rhyngwladol yn ddiogel. Dylai teithwyr edrych beth yw rheolau’r wlad y maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru