Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.
Mae ef wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i reolau’r coronafeirws yn dilyn yr adolygiad 21 o ddiwrnodau diweddaraf.
Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu bod pob busnes yn gallu bod ar agor a masnachu.
Ni fydd y Pàs COVID yn cael ei ymestyn ychwaith i leoliadau lletygarwch yn ystod y cylch tair wythnos hwn.
Bydd canlyniad yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 10 Rhagfyr 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.