Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cydnabod yr heriau digynsail mae busnesau a sefydliadau yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafeirws (COVID-19) ac yn deall y gall sefydliadau sy’n defnyddio data pobl yn ystod y pandemig fod angen rhannu gwybodaeth yn gyflym. Ni fydd diogelu data yn eich rhwystro rhag gwneud hynny.
Mae chwe cam diogelu data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau yn nodi’r egwyddorion allweddol sydd angen i sefydliadau eu hystyried i ddefnyddio gwybodaeth bersonol.
Os oes angen cymorth arnoch chi, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd wedi llunio cyngor penodol i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig coronafeirws.