Os oes gan eich busnes weithwyr, yna gofalwch eich bod yn ystyried y risg i weithwyr sy’n agored iawn i goronafeirws a rhowch fesurau rheoli ar waith i leihau’r risg hwnnw.
Mae canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn egluro beth ddylech chi ei wneud fel cyflogwr i ddiogelu gweithwyr bregus yn ystod y pandemig.
Mae’n cynnwys y pynciau canlynol:
- cefnogi gweithwyr mewn grwpiau risg uwch
- gweithwyr hynod fregus yn glinigol
- cefnogi gweithwyr hynod fregus i ddychwelyd i’r gwaith
- mesurau diogelu mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol
- gweithwyr beichiog
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae dolen hefyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am warchod a diogelu gweithwyr yng Nghymru.