Os oes gennych chi bobl yn gweithio o gartref yn sgil y pandemig coronafeirws, mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor i gyflogwyr ei ddilyn.
Materion y dylai cyflogwyr ystyried eu cynnwys:
- gweithio ar eu pen eu hunain heb oruchwyliaeth
- gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos
- cadw mewn cysylltiad i adnabod arwyddion o straen a phroblemau iechyd meddwl
Dylid hefyd nodi bod yn rhaid i gyflogwyr ddarparu a thalu am brofion llygaid ar gyfer unrhyw weithwyr sy'n defnyddio cyfarpar sgrin arddangos - gweithwyr sy’n defnyddio’r cyfarpar bob dydd, am awr neu fwy ar y tro.
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth.