BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu Hawliau Gweithwyr yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru

Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio yn y farchnad lafur.

Nod y gweithdai yw:

  • Cryfhau dealltwriaeth o hawliau gweithwyr, cyfrifoldebau cyflogwyr a gorfodi
  • Deall ble i gael cyngor, gwybodaeth ac arweiniad
  • Dysgu sut i adnabod arwyddion camfanteisio ar lafur a sut i adrodd am bryderon
  • Dysgu am fynd i'r afael â chamfanteisio ar lafur ac arferion cyflogaeth anfoesegol mewn cadwyni cyflenwi

Bydd y sefydliadau canlynol yn darparu diweddariadau llawn gwybodaeth ar y pwnc:

  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur
  • ACAS
  • Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogaeth
  • Cyllid a Thollau EM
  • BSI

Ariennir y gweithdai’n llawn gan Lywodraeth Cymru a byddant yn cael eu cyflwyno ar-lein ar y dyddiadau canlynol:

Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â wales@lantra.co.uk 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.