BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu mamau newydd a gweithwyr beichiog yn y gwaith

Mae tudalennau gwe’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi eu diweddaru ac maen nhw’n egluro sut y dylai cyflogwyr reoli iechyd a diogelwch mamau newydd a gweithwyr beichiog.

Mae cyflogwyr yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd gwaith diogel tra’n rheoli risgiau i iechyd a diogelwch pob gweithiwr yn effeithiol drwy gynnal asesiadau risg.

Mae’r arweiniad yn rhoi crynodeb o’ch dyletswyddau i ddiogelu mamau newydd a gweithwyr beichiog, gan gynnwys:

  • lles a hawliau mamau newydd a gweithwyr beichiog
  • asesu risg ar gyfer mamau newydd a gweithwyr beichiog
  • gorffwys a bwydo ar y fron yn y gwaith

Mae cyngor ar wahân ar gyfer y mamau newydd a’r gweithwyr beichiog eu hunain hefyd a chanllawiau penodol ar ddiogelu gweithwyr beichiog yn ystod y pandemig ac amddiffyn mamau newydd a mamau beichiog yn y gwaith.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.