Mae Menywod yn Seiber Cymru yn falch o fod yn cynnal cynhadledd seiberddiogelwch genedlaethol ar gyfer menywod a chynghreiriaid ar 22 Chwefror 2024 yn ICC Cymru, Casnewydd.
Bydd y digwyddiad yn dathlu’r gwaith y mae menywod yn ei wneud yn y sector, gan arddangos eu doniau ar draws amrywiaeth o wahanol rolau ac amlygu pwysigrwydd gweithlu cynhwysol.
Bydd y sesiynau’n cynnwys:
- bygythiadau a heriau seiberddiogelwch cyfredol
- datblygu sgiliau
- arweinyddiaeth a mentora
- tyfu eich rhwydwaith
- sesiwn Cipio’r Faner ryngweithiol, sy’n addas i bob lefel.
I gael rhagor o wybodaeth ac archebu tocyn, dewiswch y ddolen ganlynol: Securing the Future: Women in Cyber Tickets, Thu 22 Feb 2024 at 09:00 | Eventbrite
I gael gwybod mwy am Seiber Cymru, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyber Wales
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)