BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Disgwyl i fygythiad meddalwedd wystlo byd-eang godi gyda Deallusrwydd Artiffisial

developer and designer looking at designs AI screen

Mae disgwyl i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) gynyddu’r bygythiad meddalwedd wystlo byd-eang dros y ddwy flynedd nesaf; dyna rybudd penaethiaid seiber mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd.

Mae The near-term impact of AI on the cyber threat assessment, a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy’n rhan o GCHQ, yn dod i’r casgliad bod deallusrwydd artiffisial eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gweithgarwch seiber maleisus a bydd bron yn sicr o gynyddu nifer yr ymosodiadau seiber a’u heffaith – gan gynnwys meddalwedd wystlo – yn y dyfodol agos.

Ymhlith casgliadau eraill, mae’r adroddiad yn awgrymu bod AI, trwy ostwng y ffin fynediad i droseddwyr seiber newydd, hacwyr i’w hurio a hactifyddion, yn galluogi bygythiadau cymharol anfedrus i gyflawni gweithrediadau mynediad a chasglu gwybodaeth fwy effeithiol. Bydd y mynediad gwell hwn, ar y cyd â’r gallu y mae AI yn ei roi i dargedu dioddefwyr yn well, yn cyfrannu at fygythiad meddalwedd wystlo byd-eang dros y ddwy flynedd nesaf. 

Meddalwedd wystlo yw’r bygythiad seiber mwyaf difrifol o hyd sy’n wynebu sefydliadau a busnesau’r DU, gyda throseddwyr seiber yn addasu eu modelau busnes i ennill effeithlonrwydd a mwyhau elw.

Mae paratoi effeithiol yn ganolog i atal ymosodiadau meddalwedd wystlo.

Am ragor o wybodaeth a chyngor, cliciwch ar y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.